Grŵp Trawsbleidiol ar Saethu a Chadwraeth

Dydd Mawrth 27 Mehefin 2023 am 12pm

Ystafell Gynadledda A, Tŷ Hywel

Cofnodion

 

1.    Croeso ac ymddiheuriadau

Croesawodd Samuel Kurtz MS yr aelodau a'r rhanddeiliaid i'r cyfarfod a diolchodd i bawb am fod yn bresennol.

Yn bresennol: Samuel Kurtz AS, James Evans AS, Llyr Gruffydd AS, Peter Fox AS, Lee, aelod o staff swyddfa Joel James AS, Mike Bryant (staff), Anna Banks (staff), David Boden (BASC), Steve Griffiths (BASC), Charles De-Winton (CLA), Rachel Evans (CA), Sue Evans (GWCT), Liam Stokes (BGA), Amanda Harris-Lea (Foxy Pheasant), Emma Mellen (GWCT), Kate Miles, (Sefydliad DPJ), Robert Croft MBE, Dominic Bolton (GFA) a Hugh Edwin Jones (Ystad y Faenol).

Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar AS a Louisa Clutterbuck (BGA).

 

2.    Iechyd Meddwl mewn Cymunedau Gwledig

Arolwg Ysbryd Cymunedol yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Helfeydd a Bywyd Gwyllt (GWCT)

Cyflwyniad PowerPoint gan Gyfarwyddwraig GWCT Cymru, Sue Evans, yn ymdrin â dogfen ymchwil ynghylch ysbryd cymunedol (‘Community Spirit’) a oedd yn seiliedig ar arolwg 2020 a wnaeth GWCT yn seiliedig ar yr hyn mae saethu fel rhan o helfeydd (‘game shooting’) yn ei olygu i bobl Cymru a chefn gwlad. Roedd 868 o gyflwyniadau i’r ddogfen ymchwil, ac roedd yn bwysig i saethwyr yng Nghymru gael llais a’r gallu i ddweud yn union wrth bobl:

·         Pam ydych chi'n cyflawni dros fioamrywiaeth?

·         Pam ydych chi'n cymryd rhan mewn saethu?

Roedd ffocws y ddogfen ar Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol a’r saith nod llesiant. Elfen wych o'r ddogfen hon yw ei bod yn cynnwys geiriau’r unigolion eu hunain.

Nid yw'r buddion iechyd a llesiant yn dod i ben yn ystod y tymor saethu, gan fod y buddion i'w gweld pan fydd unigolion yn cysylltu â byd natur trwy gydol y flwyddyn.

Mae llawer iawn o blant yn ymuno yn y gymuned – boed yn curo’r perthi neu'n saethu eu hunain – ac elfen bwysig iawn a ddaeth i'r amlwg gyda'r adroddiad hwn oedd y ffaith bod y plant yn integreiddio o fewn y gymuned, yr holl ffordd hyd at oed neiniau a theidiau.

Mae yna argraff bod yr holl bobl yn dod o gymunedau gwledig, ond mae gennym ni dipyn o ymatebwyr sy’n byw mewn cymunedau trefol, ac eraill sydd wedi gweithio yn y fyddin o’r blaen, wedi gadael a chael problemau iechyd meddwl cyn dod o hyd i gymuned. Maent yn dod o hyd i gartref o fewn y gymuned saethu a'r gymuned hela y maent yn ymuno â hi, ac mae'n rhoi llawer o gryfder ac anogaeth iddynt.

Dim ond un tysteb o ddogfen ysbryd cymunedol GWCT:

‘Mae saethu yn hanfodol i’n lles meddyliol yn ystod misoedd hir y gaeaf’.

https://www.gwct.org.uk/media/1159395/GWCT-Wales-Community-Spirit-V14-PROOF.pdf


 Robert Croft MBE

Croesawyd Robert Croft MBE gan y cadeirydd, Samuel Kurtz.

Ymdriniwyd â chwestiynau i Robert Croft MBE gan Samuel Kurtz MS.

 “Pa fanteision ydych chi wedi'u gweld o gymryd rhan mewn Chwaraeon Maes?

Esboniodd Robert ei fod yn dal i fyw yn yr un pentref y cafodd ei eni ynddo yn Ne-orllewin, Cymru a dywedodd nad yw'r sgwrs hon yn un ar sail tystiolaeth ond yn fwy ar sail ei deimladau personol ei hun. Disgrifiodd Robert gefn gwlad a chwaraeon maes fel ei le hapus, gan iddo fod yn ymwneud â saethu a physgota ers yn ifanc ynghyd â'i deulu, yn enwedig ei daid, sydd ganddo atgofion melys iawn ohono. Esboniodd Robert fod ganddo ei gyrch hela bach ei hun lle maen nhw'n saethu bedwar diwrnod y flwyddyn, ond yn treulio'r 361 diwrnod arall yn gwarchod bioamrywiaeth ac yn buddsoddi yn yr ardal i helpu'r ffermwr. Mae saethu yn rhoi ymdeimlad o berthyn i Robert yn y gymuned, mae'r holl bobl sy'n saethu gydag ef yn deulu a ffrindiau ac mae'n ffodus ei fod wedi ei alluogi i gwrdd â phobl hyfryd. At hynny, mae ei gyrch hela yn annog ffrindiau o’r tu allan i Gymru i ddod i ymweld oherwydd y saethu, ac maent yn buddsoddi’n lleol mewn gwestai, tafarndai a thai bwyta sydd, o fudd enfawr i’r ardal leol.

Adroddodd Robert rai straeon personol am bwysau ac anawsterau a gafodd yn ei yrfa griced a’i fywyd yn gyffredinol. Ei ffrindiau a’r gymuned saethu a’i alluogodd i wasgu’r botwm ailosod arno’i hun. Roedd cefn gwlad a’i gyrch saethu yn lle iddo fynd i fwynhau byd natur, doedd y gymuned saethu ddim yn ei feirniadu nac yn ei drin yn wahanol ac roedden nhw'n ei gefnogi.

Gofynnodd Samuel Kurtz AS i Robert, “pan ry’n ni wedi sôn am yr anawsterau y mae’r diwydiant yn eu hwynebu, a’r difyrrwch hwn yn ei wynebu ar hyn o bryd, a bod ychydig o’r iaith sy’n dod o’r llywodraeth ddim o reidrwydd yn gefnogol i’r diwydiant hwn, pa effaith fyddai tynnu’r liferi hynny’n ei gael, yn eich barn chi, ac a fyddai’r hyn ry’n ni wedi’i drafod yn dod yn fwy anodd i’w wneud yng Nghymru?”

Esboniodd Robert yn gyntaf yr effaith aruthrol y byddai’n ei chael ar yr economi wledig a theimlai’n bersonol nad oes unrhyw ffordd o’i disodli. At hynny, yr elfen ddynol, roedd o’r farn y byddai’r unigrwydd yn taro llawer o bobl wrth i'r gymuned saethu ddod yn rhan o'u teulu estynedig. Ni fydd pobl yn cael y cyfleoedd i gael ffitrwydd corfforol, awyr iach, cysylltiad â natur a chymdeithasu. Mae Robert yn credu’n gryf bod adrodd straeon yn rhan fawr o ddysgu, ac mae demograffeg saethu yn galluogi hyn i ddigwydd llawer gan fod grwpiau oedran cymysg i gyd yn cymdeithasu gyda’i gilydd. Byddai addysg cefn gwlad yn dioddef wrth i'r rheini sy'n ymwneud â saethu ddeall yr eco-system, pa bryd mae adar yn nythu a beth yw'r tymhorau. At hynny, byddai rheoli tir yn dioddef. Mae saethu yn cynnwys pobl o bob cefndir, nid ydyn nhw'n eich barnu chi ac yn y maes saethu, mae pawb yn gyfartal ac yn gallu ddiffodd pwysau bywyd ac ailwefru’r batris. Mae'n ffordd o gymdeithasu ac yn ryddhad i lawer o bobl yng nghefn gwlad.

I gloi, dywedodd Robert, “mae Cymru wedi cael ei hadnabod fel gwlad y mae hyn yn fater o bwys iddi, a dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gofalu am ein cymunedau gwledig sydd heb fynediad i theatrau, bwytai, campfeydd a meysydd chwaraeon. Mae cefn gwlad yn lle gwych ond mae hefyd yn gallu bod yn lle anodd ac unig iawn.”

Sefydliad DPJ Kate Miles

Mae saith mlynedd, bellach ers sefydlu Sefydliad DPJ yn dilyn marwolaeth Daniel Pickton Jones drwy hunanladdiad. Roedd Dan yn gontractwr amaethyddol, yn briod â merch ffermwr, wedi tyfu i fyny yng nghefn gwlad, ac roedd yn 33 oed pan fu farw.
Yr oedd ganddo ef, o'r tu allan, fywyd perffaith. Roedd ganddo wraig hardd, dau o blant ifanc hyfryd, busnes da a chartref gwych. Er gwaethaf hynny oll, teimlai nad oedd bywyd yn werth ei fyw. Roedd Emma yn ymwybodol bod Dan yn cael trafferth gydag iechyd meddwl.
Serch hynny, fel y rhan fwyaf o bobl 27 oed, doedd hi ddim yn gwybod sut i'w helpu.
Ceisiodd wneud y math o bethau y mae'n debyg y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn eu gwneud, sef ceisio ei gadw'n ddiogel trwy ei atal rhag cael mynediad at bethau a allai fod yn angheuol, ceisio bod gydag ef cymaint ag y gallai, ond mewn gwirionedd mae hi'n gwybod, erbyn hyn, mai nid propiau oedd y ffordd gywir o fynd ati.
Yr hyn y dylai hi fod wedi'i wneud yw siarad ag ef yn uniongyrchol, ei holi am ei feddyliau ynghylch hunanladdiad a cheisio ei gael i siarad yn y ffordd honno. O ganlyniad i hynny, sefydlodd Emma Sefydliad DPJ.


Mae DPJ yn cynnig llinell gymorth ffôn a neges testun am 24 awr bob dydd, sydd ar gael i unrhyw un sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth yng Nghymru. At hynny, mae DPJ yn talu am wasanaethau cwnsela gyda chwnselwyr proffesiynol ar gyfer y rheini sydd eu hangen, heb ddweud nad yw rhywun yn ddigon sâl, neu bod rhywun yn rhy hwylus.
Os yw rhywun eisiau cael cymorth, gall y sefydliad ei ddarparu ac yn bum mlynedd a hanner y mae'r gwasanaeth wedi bod ar waith, mae wedi cefnogi mwy na 800 o bobl gyda chwnsela proffesiynol ar draws Cymru gyfan.

Defnyddiodd Kate gyfatebiaeth o fwced straen rydym ni'n ei gario o gwmpas bob dydd, gyda straen bob dydd yn mynd i'r bwced hwn. Mae DPJ yn deall bod saethu yn weithgaredd y mae llawer o ffermwyr a phobl wledig yn ei ddefnyddio yng Nghymru i wagio'r bwced hwn a gollwng stêm.

At hynny, mae’n hanfodol deall bod chwaraeon saethu yn hanfodol i lawer o bobl mewn cymunedau gwledig, gan ei fod yn bodloni llawer o nodau llesiant y cawsant eisoes eu crybwyll yn ystod y cyfarfod hwn, ond i grynhoi:

·         Aml-genhedlaeth

·         Cadw pobl hŷn yn ifanc

·         Cyfle i bobl ffoi

At hynny, mae’n cyflawni pob un o’r pum llwybr at lesiant:

·         Cysylltu

·         Bod yn actif

·         Talu sylw

·         Dysgu

·         Rhoi

Mae saethu yn galluogi pobl i gyflawni pob un o'r nodau llesiant uchod. Cysylltodd Kate bob un o’r nodau llesiant â senario, a dywedodd wrth y grŵp am ddigwyddiad lle cyfeiriwyd saethwr atynt trwy siarad â ffrindiau am sut roedd yn teimlo ar ddiwrnod saethu, a gwnaethant ei gefnogi i gysylltu â DPJ am gefnogaeth.

Mae saethu yn galluogi cymaint o ffermwyr i ddod oddi ar y fferm am y diwrnod a chymdeithasu, yn rhoi rhywbeth iddynt edrych ymlaen ato a chyfle i siarad a chymysgu o fewn cymuned. Nid yw saethu’n rhyddhau pobl wledig yn unig. Mae yna bobl sy'n byw mewn trefi a dinasoedd sy'n saethu yng nghefn gwlad. Nid camp i bobl cefnog yw hi ac mae angen sicrhau bod neges gadarnhaol yn cael ei phortreadu sy'n egluro'r manteision iechyd a llesiant.

Cafwyd trafodaeth ynglŷn ag unigolion yn mynd at y meddygon ynglŷn ag iechyd meddwl gan ofni y bydd eu trwydded gwn yn cael ei thynnu oddi arnynt. Mae angen delio â hynny’n fwy sensitif gydag adrannau'r heddlu, gan ddefnyddio dulliau fel cwnsela a sicrhau bod rhywun gyda'r unigolyn os yw hyn yn digwydd. Hefyd, dylid defnyddio hynny yn y tymor byr yn unig tra eu bod yn gwella ac yn cael cefnogaeth.

 

3.    Unrhyw fater arall

·         Mae ymgynghoriad diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru ar ryddhau adar hela wedi cau.

·         Hoffai James Evans AS ddiolch yn bersonol i Helen Jones a Dan Munford am eu cymorth i drefnu'r tri chyfarfod cyhoeddus yng Nghymru, lle’r oedd BASC, CA, CLA, NGO a GWCT yn bresennol. Gofynnodd i hynny gael ei gofnodi.

·         Mae CA/BASC yn gobeithio i'r cyfarfodydd hyn barhau yn yr hydref.

·         Cafwyd trafodaethau ynghylch rhaglenni dogfen teledu ac ymgyrchoedd marchnata ynghylch manteision saethu a manteision iechyd. (Pawb)

·         Ymgyrchoedd o amgylch y grŵp amrywiol o bobl dan sylw a pham eu bod yn ei wneud. (Pawb)

·         Sioe Frenhinol Cymru (Samuel Kurtz AS)

·         Digwyddiadau bwyta gêm yn y Senedd a gêm ar fwydlen y Senedd. Rachel Evans CA

 

 

4.    Dyddiad y cyfarfod nesaf

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei drafod maes o law. Bydd BASC, ysgrifennydd y grŵp hwn, yn hysbysu pawb.